SL(5)148 - Rheoliadau Tynnu Dŵr a’i Gronni (Esemptiadau) 2017
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer esemptiadau o'r cyfyngiad ar dynnu a'r cyfyngiad ar waith cronni yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991 (c. 57).
Gweithdrefn
Negyddol
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offerynnau hyn:
1. Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn Saesneg yn unig (Rheol Sefydlog 21.2(ix). Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau, sy'n Offerynnau Statudol cyfansawdd, yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU. Felly, ni ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol [gan Weinidogion Cymru] i’r Offerynnau hyn gael eu gwneud yn ddwyieithog.
Craffu ar y rhinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offerynnau hyn.
Y Goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offerynnau hyn:
2. Mae'r diffiniad o 'safle cadwraeth' yn rheoliad 2 yn cyfeirio at restr a ddarparwyd i'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae'r troednodyn yn egluro bod y rhestr ar gael gan Lywodraeth Cymru a DEFRA hefyd, fel na fyddai'r ddarpariaeth yn peidio â gweithio ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'n bosibl y bydd yn ddymunol diwygio'r ddarpariaeth, ond ni fyddai gwneud hynny'n hanfodol oni bai a hyd nes y credid ei bod yn briodol diwygio'r rhestr, gan na fyddai unrhyw restr newydd yn cael ei darparu i'r Comisiwn. Byddai'n briodol i Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio'r ddarpariaeth gan ddefnyddio'r pwerau y dibynnir arnynt i wneud y Rheoliadau hyn.
3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnwys nifer o gyfeiriadau at Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010. Trosglwyddodd y Rheoliadau hynny un o Gyfarwyddebau'r Cyngor, sef 92/43/EEC, ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt ('y Gyfarwyddeb Cynefinoedd'). Bydd angen eu hadolygu yng nghyd-destun ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Bryd hynny, felly, bydd angen adolygu'r cyfeiriadau a wneir yn y Rheoliadau presennol at Reoliadau 2010 hefyd.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol